| Rydym wedi penodi Cyfieithydd Cymunedol sy’n cynnig gwasanaethau cyfieithu ar bapur, cyfieithu ar y pryd, golygu yn ogystal â’ch cynghori ar sut i fynd ati i gynhyrchu deunydd dwyieithog a’r grantiau sydd ar gael i’ch helpu. A hyn oll gan gyfieithydd cymwys a phroffesiynol.
|
Gallwch hefyd logi
ein hoffer cyfieithu ar y pryd sy’n hawdd
i’w gludo a’i osod. Mae prisiau’r
gwasanaeth hwn yn amrywio yn ôl y math o
sefydliad sydd yn defnyddio’r gwasanaeth.
Cysylltwch â 01792 652252 am fwy o wybodaeth.
|
||
TELERAU CYFIEITHU
|
MENTER IAITH ABERTAWE |
||
Grwp 1 - cyrff gwirfoddol a chymunedol gyda llai na 2 aelod o staff:Cyfieithu ar bapur: am ddim hyd at 1,000 o eiriau am y 6 mis cyntaf, £20 y fil wedi hynny. Cyfieithu ar y pryd: yr awr gyntaf am ddim yna £10 yr awr. Llogi offer cyfieithu ar y pryd: £15 y bocs (20 clustffon) y dydd. Golygu: £6 y 1,000 o eiriau. |
Grwp 2 - cyrff di-elw/busnesau lleol gyda rhwng 2 a 10 aelod o staff:Cyfieithu ar bapur: £20 y fil, cyfieithiadau bychain am ddim (cardiau busnes, papur pennawd a.a.) Cyfieithu ar y pryd: £20 yr awr. Llogi offer cyfieithu ar y pryd: £25 y bocs (20 clustffon) y dydd. Golygu: £9 y fil. |
||
Grwp 3 - cyrff di-elw mwy na 10 aelod o staff llawn amser a chyflogedig:Cyfieithu ar bapur: £35 y fil. Cyfieithu ar y pryd: £25 yr awr. Llogi offer cyfieithu ar y pryd: £35 y bocs (20 clustffon) y dydd. Golygu: £12 y fil. Grwp 4 - cyrff masnachol: Cyfieithu ar bapur: £50 y fil. Cyfieithu ar y pryd: £30 yr awr. Llogi offer cyfieithu ar y pryd: £50 y bocs (20 clustffon) y dydd. Golygu: £15 y fil. Disgwylir o leiaf saith diwrnod o rybudd i gyfieithu ar y pryd. |
|||
| . |
|